Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2019
Amser:
09.00 -
11.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5749
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Claire Germain, Llywodraeth Cymru Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Lisa James, Llywodraeth Cymru Angharad Thomas-Richards, Llywodraeth Cymru Cath Wyatt, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
· Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau
· Angharad Thomas Richards, Pennaeth Tîm Polisi Llywodraeth Leol ac Etholiadau
· Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu rhagor o fanylion ar y materion a ganlyn:
3.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran rhoi'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith
3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru ynglŷn â gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.